Ni fydd myfyrwyr TGAU a Lefel A yn gorfod sefyll arholiadau yr Haf hwn, oherwydd y pandemig.

Ond mi fyddan nhw yn cael cymwysterau, gyda’u canlyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth sy’n cynnwys asesiadau gan athrawon.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

“Yn y cyfnod hwn, na welwyd ei debyg o’r blaen, mae’n hanfodol ein bod yn rhoi cymaint o sicrwydd i bobl ifanc ag y gallwn, yn enwedig y rhai oedd ar fin sefyll arholiadau pwysig yr haf hwn. Nid oedd hwn yn benderfyniad hawdd, ond rwy’n hyderus mai’r mesurau hyn ar gyfer Blynyddoedd 10 a 12 yw’r ffordd orau ymlaen. Byddant yn rhoi eglurder i’r myfyrwyr hynny a oedd yn bryderus ynghylch sut y byddai eu gwaith caled yn cael ei gydnabod.

“Ers y penderfyniad i gau ysgolion a chanslo arholiadau’r haf hwn, rydym wedi gweithio mor gyflym â phosibl i ddatblygu’r wybodaeth fanwl sydd ei hangen ar fyfyrwyr.

“Hoffwn ddiolch i fyfyrwyr am eu hamynedd a byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt cyn gynted ag y gallaf.”