Mae tafarn yng ngogledd Cymru wedi cael ei gorfodi i gau wedi iddi anwybyddu’r canllawiau ar gyfer atal y coronafeirws rhag ymledu.

Ddydd Gwener diwethaf daeth i’w amlwg y byddai’n rhaid i theatrau, bwytai, sinemâu a thafarndai gau, er mwyn rhwystro’r feirws rhag lledu.

Ac erbyn hyn mae mwyafrif helaeth o dafarndai Cymru wedi cydymffurfio a chau – gyda rhai’n cynnig gwasanaeth delifro ar y We dros y cyfnod hwn.

Er hynny aeth Tafarn y Slater’s Arms yng Nghorris yn groes i’r rheolau a bu iddi aros ar agor. Bellach mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi ei bod wedi’i gorfodi i gau.

Barod i weithredu

“Rydym yn ddiolchgar i’r mwyafrif llethol o fusnesau Gwynedd sy’n chwarae eu rhan, ac yn glynu at y rheoliadau cenedlaethol sydd mewn grym i helpu amddiffyn y cyhoedd yn ystod y sefyllfa ddyrys hon,” meddai datganiad gan y Cyngor.

“Fodd bynnag, ni fyddwn yn meddwl ddwywaith cyn defnyddio’n pwerau gorfodi i roi stop ar y busnesau hynny sy’n torri’r rheoliadau, ac rydym yn gweithio’n agos â chydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru ar achosion o’r fath…

“Mae’n hanfodol fod pawb ohonom yn dilyn y cyfarwyddiadau newydd er mwyn sicrhau bod ein Gwasanaethau Iechyd a Gofal yn gallu dygymod â’r effaith sylweddol y bydd y feirws yn ei gael ar drigolion Gwynedd.”