Mae’r corff Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi fod 180 o achosion newydd o goronafeirws yng Nghymru, sy’n golygu bod y nifer o achosion sydd wedi eu cadarnhau wedi codi i 921.

“Rydym wedi cael gwybod am chwech o farwolaethau pellach o bobol oedd wedi cael prawf positif am coronafeirws, sy’n golygu bod nifer y meirw yng Nghymru yn 34,” meddai Dr Robin Howe, un o gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ychwanegodd Dr Howe fod 5,000 o brofion am y feirws wedi eu cynnal hyd yma yng Nghymru.