Mae ’na bryder y bydd “bywydau’n cael eu colli” os na fydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu cynllun sydd ar gael yn Lloegr sy’n cofrestru pobl sy’n “hynod o fregus” er mwyn cael cymorth yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mae’r cynllun yn rhoi cymorth i bobl anabl, hŷn a bregus wrth geisio archebu nwyddau hanfodol drwy roi blaenoriaeth iddyn nhw pan maen nhw’n prynu bwyd gan archfarchnadoedd ar-lein.

Ond, hyd yn hyn, dim ond pobl yn Lloegr sy’n gallu cofrestru gyda’r cynllun.

Yn sgil y coronafeirws mae nifer o archfarchnadoedd wedi bod dan eu sang a chwsmeriaid yn methu archebu bwyd ar-lein am rai wythnosau.

“Angen gweithredu ar frys”

Mae Aelod Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns, wedi galw am ymestyn y cynllun i Gymru a dywedodd Janet Finch-Saunders, llefarydd gofal cymdeithasol y blaid, y bydd “bywydau’n cael eu colli” os na fydd hyn yn digwydd.

Dywedodd bod Aelodau Cynulliad y Ceidwadwyr Cymreig wedi derbyn nifer o e-byst a galwadau ffôn yn erfyn arnyn nhw i ymestyn y cynllun i Gymru.

Mae Darren Millar AC wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething yn galw arno i weithredu ar frys fel bod pobl yng Nghymru yn gallu cofrestru pobl hynod o fregus mor fuan â phosib.

“Pan fydd y pandemig erchyll yma wedi dod i ben, ac mi fydd ryw ddydd, yma yng Nghymru mae’n rhaid i ni fod yn siŵr ein bod ni wedi gwneud popeth posib i atal pobl rhag colli eu bywydau.

“Mae sefydlu cynllun cofrestru ar gyfer pobl hynod o fregus yn un ffordd o wneud hynny,” meddai Janet Finch-Saunders.

“Negeseuon cymysg”

Yn y cyfamser mae’r Aelod Seneddol Llafur Chris Bryant ac 14 o Aelodau Seneddol eraill y blaid wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Boris Johnson yn  dweud bod “negeseuon cymysg” am y mesurau sy’n cael eu cymryd i roi cymorth yn sgil y coronafeirws, yn achosi pryder a dicter.

Yn y llythyr maen nhw’n galw am eglurder am gyhoeddiadau sy’n berthnasol i Loegr a rhai sy’n berthnasol i’r llywodraethau datganoledig.

Er bod cyhoeddiad diweddar y Canghellor ynglŷn â chyfraddau busnes i’w groesawu, dywed yr ASau nad oedd yn glir bod y cyhoeddiad yn berthynas i Loegr yn unig.

Yn ôl yr ASau fe allai’r dryswch achosi pobl i golli hyder yng nghyhoeddiadau’r Llywodraeth.

Maen nhw’n galw ar Lywodraeth San Steffan i’w gwneud yn glir os yw mesurau’n berthnasol i Loegr yn unig.