Blog am bêl-droed ddaeth i’r brig neithiwr yng ngwobrau Blogiau Gorau Cymru 2011.

Roedd Phil Stead colofnydd pêl-droed y cylchgrawn Golwg yn dathlu hat-tric wrth i’w flog gipio gwobrau ‘Dewis y Bobol’ a ‘Blog Chwaraeon Gorau’ hefyd.

Llwyddodd y blog ‘Ffwtbol’ i guro enillwyr mewn 11 categori gwahanol i fynd â theitl ‘Blog y Flwyddyn’ neithiwr.

Roedd Phil Stead yn arfer bod yn Ohebydd Chwaraeon gyda’r BBC.

Mae’n gefnogwr pêl-droed anhygoel o frwd, yn rhannu ei chwarel o wybodaeth gyda darllenwyr Golwg yn wythnosol.

Mae’r blog-wobrau yn eu hail flwyddyn eleni, yn cael eu trefnu ar y cyd rhwng Media Wales a Warwick Emanuel PR.

Yn ôl y trefnwyr, mae’r gwobrau wedi eu sefydlu er mwyn dathlu’r cyfoeth o flogiau ar-lein sydd gan Gymru mewn nifer o wahanol feysydd erbyn hyn.

“Mae blogiau yn caniatau i bobol sydd ag angerdd am destun i ehangu arno, i ddod yn arbenigwr a rhannu eu gwybodaeth ag eraill,” meddai’r trefnwyr.

“Mewn rhai rhannau o’r wlad maen nhw’n chwarae rhan hysbysfyrddau cymunedol, tra bod eraill yn torri straeon chwaraeon a newyddion gwych i bawb eu gweld.”

Cynhaliwyd y gwobrau yng Nghanolfan Celfyddydau’r Chapter yng Nghaerdydd neithiwr.

Y beirniaid eleni oedd Wynford Emanuel, Cyfarwyddwr Warwick Emanuel PR, Alison Gow, Cyfarwyddwr Wales Online a Wales on Sunday, Lorna Doran, Gohebydd Ar-lein Wales Online, a Ruthie Davies o Gwrt Henri, Llandeilo, a enillodd wobr ‘Blog Gorau’r Flwyddyn’ y llynedd.

Yr enillwyr ym mhob categori oedd:

Blog Gorau (enillydd ar draws y categoriau) – www.ffwtbol.com
Gwobr Dewis y Bobol – www.ffwtbol.com
Blog Cymunedol Gorau – http://rhuthun.blogspot.com
Blog Gorau am Fwyd a Diod – http://cardiffbites.blogspot.com
Blog Ffordd o Fyw Gorau – http://wherearemyknees.blogspot.com
Blog Cerddoriaeth ac Adloniant Gorau – http://moviewaffle.com
Blog Ffotograffiaeth Gorau – http://cardiffarcades.wordpress.com
Blog Glweidyddol Gorau – http://carmarthenplanning.blogspot.com
Blog Chwaraeon Gorau – www.ffwtbol.com
Blog Technoleg Gorau – www.Thisismyjoystick.com
Blog Cymraeg Gorau – http://henrechflin.blogspot.com
Blog â’r Ysgrifennu Gorau – http://isawelvisinthewoods.blogspot.com/