Mae melin drafod flaenllaw yn rhybuddio fod angen mwy o arian ar lywodraethau Cymru a’r Alban i frwydro yn erbyn y coronafeirws.

Yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Ariannol (IFS), dylai’r ddwy lywodraeth gael pwerau i fenthyg mwy o arian er mwyn osgoi oedi neu ymateb gwan i’r argyfwng.

Mewn papur, mae’r sefydliad yn dweud bod y ddwy lywodraeth yn “ddibynnol iawn” ar arian gan Lywodraeth Prydain i dalu am fesurau coronafeirws newydd.

Maen nhw’n rhybuddio nad yw’r drefn bresennol, yn unol â Fformiwla Barnett ar gyfer benthyg, yn ddigonol i frwydro yn erbyn y feirws.

Diffyg adnoddau

“Dydy’r trefniadau ariannu ar gyfer y gwledydd datganoledig yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon ddim yn edrych fel pe baen nhw wedi’u cynllunio’n dda er mwyn ymateb i argyfwng y coronafeirws,” meddai David Phillips, cyfarwyddwr cysylltiol y Sefydliad Astudiaethau Ariannol.

“Mae gan lywodraethau datganoledig adnoddau a phwerau benthyg cyfyng, a fydd yr arian sy’n llifo iddyn nhw o ganlyniad i Fformiwla Barnett ddim yn adlewyrchu’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.

“O ganlyniad, mae’n bosib y bydd oedi neu ddiffygion yng ngallu’r llywodraethau datganoledig i ymateb yn effeithiol, ac y gallai arian gael ei ddosbarthu ar gam ar draws y Deyrnas Unedig.

“Mae dadl dros roi mwy o bwerau benthyg iddyn nhw, ac i ystyried hepgor Fformiwla Barnett – am y tro, o leiaf.”

Ymateb y Trysorlys

Yn ôl y Trysorlys, mae eu hymateb i’r feirws yn addas ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig.

“Bydd ein hymateb i Covid-19 ar draws y Deyrnas Unedig, ac fe fydd rhan fwya’r mesurau sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Prydain yn rhoi cefnogaeth i bobol a busnesau ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, megis y Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Benthyciad Ymyrraeth Busnes,” meddai llefarydd.

“Rydym hefyd wedi addasu Fformiwla Barnett i roi i’r gweinyddiaethau datganoledig eu cyfran o’r £5bn o’r gronfa Ymateb i’r Coronafeirws yn gynnar, cyn bod arian yn cael ei ddosbarthu yn Lloegr.

“Hyd yn hyn, mae’r gweinyddiaethau datganoledig wedi derbyn £5.3bn o arian ychwanegol i’w helpu i ymateb i Covid-19, gan gynnwys £2.7bn ar gyfer Llywodraeth yr Alban, £1.6bn ar gyfer Llywodraeth Cymru a £900m ar gyfer Pwyllgor Gweithredol Gogledd Iwerddon, a byddwn yn parhau i gydweithio â’r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau eu bod nhw’n gallu ymateb yn effeithiol.”