Mae patrwm achosion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan o’r coronafeirws yn debyg i’r patrwm sydd eisoes wedi’i weld yn yr Eidal, yn ôl arbenigwraig.

Daw rhybudd Dr Sarah Aitken mewn fideo ar y we, lle mae hi’n rhybuddio am “glwstwr” o achosion yn ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys.

Mae 309 o achosion wedi’u cadarnhau yn yr ardal, sy’n cyfateb i bron i hanner yr holl achosion yng Nghymru, a mwy na dwywaith unrhyw ardal arall yn y wlad.

“Yng Ngwent, rydyn ni’n gweld cynnydd sy’n cyflymu yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yn ein holl gymunedau, a chynnydd dyddiol yn nifer y bobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty, a nifer y bobol sy’n marw o ganlyniad i’r feirws,” meddai.

“Mae’r patrwm ry’n ni’n ei weld yng Ngwent yr un fath â’r hyn a gafodd ei weld yn yr Eidal, lle mae eu system gofal iechyd bellach dan ei sang.

“Heb ymdrech enfawr gan bawb ohonon ni, rydyn ni’n anelu am yr eiliad yng Ngwent pan fydd ein Gwasanaeth Iechyd ninnau dan ei sang hefyd.

“Fydd gyda ni ddim digon o wlâu mewn ysbytai i bawb sydd angen peiriannau achub bywyd a gofal dwys.”

Y sefyllfa yng Nghymru

Ddoe (dydd Mercher, Mawrth 25), daeth cadarnhad fod 150 o achosion newydd yng Nghymru, gan fynd â’r cyfanswm i 628.

Mae 309 ohonyn nhw yn ardal Aneurin Bevan, 22 yn Betsi Cadwaladr, 125 yng Nghaerdydd a’r Fro, 42 yng Nghwm Tâf, 38 yn Hywel Dda, 14 ym Mhowys a 70 ym Mae Abertawe.

Ymhlith y rhai fu farw yn ardal Aneurin Bevan mae dynes oedrannus oedd wedi mynd i’r ysbyty am lawdriniaeth nad oedd yn ymwneud â’r coronafeirws, ac mae lle i gredu ei bod hi’n iach ar y cyfan cyn cael ei heintio â’r feirws.

Roedd 61 o achosion newydd mewn cyfnod o 24 awr yn ardal Aneurin Bevan.

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, mae Cymru dan anfantais o’i chymharu â gwledydd eraill Prydain oherwydd bod ganddi fwy o bobol sy’n heneiddio.