Fe fydd y cwest i farwolaeth Peter Whittingham, cyn-bêldroediwr Caerdydd, yn cael ei gynnal y flwyddyn nesaf.

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yr wythnos ddiwethaf yn 35 ar ôl cael anafiadau difrifol i’w ben ar ôl cwympo mewn tafarn yn y Barri ar Fawrth 7.

 

Cafodd gwrandawiad cychwynnol ei gynnal ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 24), ac fe gafodd y cwest ei ohirio am flwyddyn.

 

 

Chwaraeodd e 459 o weithiau i’r Adar Gleision, gan sgorio 98 gôl, ac roedd e’n aelod o’r tîm yn rownd derfynol Cwpan FA Lloegr yn 2008 a Chwpan y Gynghrair yn 2012.