Mae pump yn rhagor o bobol wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â’r cyfanswm i 22, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Daeth cadarnhad hefyd fod 150 o achosion newydd o Covid-19, gan ddod â’r cyfanswm i 628 yng Nghymru.

“Mae’r y firws bellach ym mhob rhan o Gymru,” meddai Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Ymateb Coronafeirws Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Rydym yn cydymdeimlo a teulu a ffrindiau rheini sydd wedi marw, a gofynnwn i’r rhai sy’n gohebu ar y sefyllfa i barchu cyfrinachedd cleifion.”

Ychwanegodd y dylai pawb barhau i ddilyn y mesurau sydd wedi eu gosod gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru.