Mae dyn 23 oed o Aberdaugleddau wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei arestio ddwywaith ar yr un diwrnod.

Cafwyd hyd i Justin Cadwell â thair cyllell yn ei feddiant ar Fawrth 7, oriau’n unig ar ôl bod yn y ddalfa ar amheuaeth o fod â chanabis yn ei feddiant.

Cafodd ei gar ei dynnu i’r naill ochr ar ôl i’r heddlu arogli canabis, ac fe ddaethon nhw o hyd i gyllell â llafn 17cm yn ei boced, cyn dod o hyd i ddwy gyllell arall yn y car.

Cafodd ei gyhuddo hefyd o ymosod ar blismon yn dilyn digwyddiad arall ddechrau’r wythnos hon, pan gafodd yr heddlu eu galw i Premier Inn yn Hwlffordd.

Cafodd ei chwilio ar amheuaeth o fod dan ddylanwad cyffuriau a phan gafodd ei lorio gan yr heddlu, fe afaelodd e’n dynn yng ngheilliau un o’r plismyn.

Aeth e gerbron ynadon yn Hwlffordd ddydd Llun, lle cafodd ei ddedfrydu i naw wythnos o garchar, ac fe gafodd gorchymyn ei gyflwyno i ddinistrio’r cyllyll.