Mae’r Post Brenhinol wedi derbyn mwy nag 80,000 o geisiadau ar gyfer 18,000 o swyddi tymhorol dros y Dolig – miloedd yn fwy na’r llynedd.

Mi fyddan nhw’n cyflogi 1,000 o weithwyr ychwanegol yng Nghymru dros yr ŵyl i ddelio gyda’r cynnydd mewn anfon cardiau a pharseli.

Mae gan y gwasanaeth weithlu o 130,000 o ddynion a merched post llawn amser drwy gydol y flwyddyn.

Er bod y nifer yn ceisio am swyddi tymhorol 10,000 yn fwy na’r llynedd, mae’r Post Brenhinol yn dal i chwilio am weithwyr mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys Abertawe.

Bydd y gwaith tymhorol yn para o ganol Tachwedd hyd at ddechrau mis Ionawr.