Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi y bydd yn cau ei brif feysydd parcio o heddiw (Mawrth 23) yn dilyn “y penwythnos prysuraf ers cyn cof” o ran ymwelwyr.

Dywedodd yr Awdurdod eu bod yn cymryd camau pellach mewn cydweithrediad â’r heddlu ac awdurdodau lleol, “er mwyn gwarchod y cymunedau lleol a’r gwasanaethau hanfodol rhag lledaeniad” y coronafeirws.

Maen nhw hefyd yn ymchwilio i bwerau i gau’r mynyddoedd a’r safleoedd mwyaf poblogaidd os bydd y sefyllfa’n parhau.

Ni fydd cyfleusterau parcio ar gael ar gyfer mynediad i safleoedd mwyaf poblogaidd Eryri yn cynnwys Yr Wyddfa, Cadair Idris, Llyn Tegid, y ddwy Aran, y Carneddau a’r Glyderau a Chrib Nantlle. Maen nhw’n annog ymwelwyr sy’n bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopa poblogaidd arall i aros adref ac ymarfer yn eu hardal leol.

Dywedodd Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:  “Heddiw, mewn cydweithrediad gyda’r heddlu ac awdurdodau lleol byddwn yn cau ein holl brif feysydd parcio.

“Rydym yn gwneud hyn gyda chefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru er mwyn amddiffyn y cymunedau gwledig a’r gwasanaethau iechyd yn ardal Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda hwy i edrych ar y posibilrwydd o gau safleoedd a mynyddoedd poblogaidd os bydd niferoedd yr ymwelwyr yn ei gwneud hi’n amhosib cynnal ymbellhad cymdeithasol yn effeithiol.”

“Dychrynllyd”

Ychwanegodd: “Roedd y tyrfaoedd a welsom ar Yr Wyddfa ac mewn safleoedd penodol yn Eryri dros y penwythnos yn ddychrynllyd, a daeth yn amlwg nad oedd pobl yn derbyn cyngor y Llywodraeth i osgoi teithio yn ddiangen na chynnal pellter cymdeithasol diogel.  Mae’n rhaid i ni felly ymateb yn gyflym er mwyn bod y mater yn cael ei ddatrys.

“Ddoe fe wnaethom alw ar y Llywodraeth i dynhau mesurau ac arweiniad er mwyn sicrhau nad yw pobl yn teithio i gefn gwlad i hunan-ynysu. Heddiw, mae’n rhaid i ni weithredu. Ein blaenoriaeth yn ystod yr amseroedd anodd yma yw gwarchod ein cymunedau lleol a’r gwasanaethau brys hanfodol sydd eisoes dan bwysau”.

Mae’r Llywodraeth wedi diweddaru eu canllawiau heddiw ar gyfer y rhai sy’n teithio o fewn y Deyrnas Unedig. Mae’r canllawiau hyn yn datgan yn glir na ddylai pobl fod yn cynllunio dod i Eryri tra bod y canllawiau yma yn weithredol.

Gellir cael gafael ar wybodaeth ynghylch pa feysydd parcio fydd yn cael eu cau ac effeithiau pellach ar eu gwasanaethau trwy fynd i

www.eryri.llyw.cymru/coronavirus