Mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi erfyn ar ymwelwyr i ddilyn y canllawiau cenedlaethol ac i gadw draw yn sgil y pandemig coronafeirws.

Daw hyn ar ol i filoedd o bobol heidio i fannau twristaidd dros y penwythnos.

Mae Cyngor Gwynedd yn croesawu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, gyda thwristiaeth yn cyfrannu dros £1 biliwn i’r economi leol.

Ond gyda’r wlad mewn cyfnod o argyfwng ac adnoddau’n brin yng ngogledd Cymru, mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn wedi annog pobl i beidio ymweld â’r ardal neu i ddychwelyd adref os ydyn nhw wedi teithio yno’n barod.

Dywedodd y byddan nhw’n helpu i warchod eu hunain, pobol Gwynedd, gwasanaethau iechyd a gofal hanfodol drwy gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

“Rydym mewn cyfnod o argyfwng byd-eang digynsail gydag ymlediad Coronofeirws Covid-19,” meddai Dyfrig Siencyn.

“Rydym yn erfyn ar y rhai hynny sy’n ystyried ymweld â Gwynedd ac Eryri i beidio gwneud hynny.

“Os ydych yng Ngwynedd yn barod ar eich gwyliau, mewn carafán neu ail-gartref er enghraifft – rydym yn erfyn arnoch i ddychwelyd i’ch prif gyfeiriad cartref a pheidio dod yn ôl i’r ardal hyd nes bydd y sefyllfa wedi gwella.”

“Cadw draw”

Mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi, wedi annog twristiaid ac ymwelwyr i gadw draw o’r ynys hyd nes bod yr argyfwng Coronafeirws drosodd hefyd.

Tra bod Cyngor Sir Ceredigion wedi atal ymwelwyr i gartrefi gofal preswyl y Cyngor hyd nes y byddan nhw’n rhoi rhybudd pellach.

A bydd pob parc sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gau i’r cyhoedd o 6pm heno (nos Lun, Mawrth 23).

Mae Cyngor Sir Powys hefyd yn gofyn i bobol ddilyn cyngor y Llywodraeth ac i beidio teithio i leoliadau twristaidd yn y sir tan fod y pandemig drosodd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn Llinos Medi: “Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n cyfleu’r fath neges, ond yn ystod amser mor gythryblus, does dim dewis heblaw annog ymwelwyr a thwristiaid, gan gynnwys y rhai sy’n berchen ar ail gartrefi, i gadw draw o’r ynys – a hynny ar unwaith.”

“Nid gwyliau ond argyfwng cenedlaethol”

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, Dafydd Llewelyn mae’r cyfarwyddyd yn gwbl glir: “Dylai neb fod yn mynd ar deithiau diangen. Mae hynny’n cynnwys taith i gefn gwald Cymru.”

“Dylem nawr gyflwyno sawl ‘lockdown’ er mwyn sicrhau fod pobl sydd yn teithio i ail gartref o unrhyw fath yn cael eu stopio a bod y rhai sydd yn barod yn aros mewn ail gartrefi yn troi am adref.”

Dywedodd hefyd nad oes yr un gymuned yn ddiogel rhag y pandemig yma.

“Dydi pobl ddim am allu rhedeg oddi wrtho a dyw pobl yn sicr ddim yn gallu cuddio oddi wrtho mewn lleoliadau gwyliau.

“Yr oll fyddwch chi yn ei wneud wrth fynd i’r ardaloedd yma ydi peryglu eich bywydau chi a bywydau pobl eraill drwy or-ymestyn gwasanaethau lleol.”

“Nid gwyliau cenedlaethol mo hwn ond argyfwng cenedlaethol. Os na fydd pobl yn dechrau ymddwyn yn gyfrifol bydd cannoedd, os nad miloedd o bobl yn marw yn ddiangen.”