Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bygwth cymryd “camau llym” wrth i bobol barhau i heidio i gefn gwlad ac i’r awyr agored i ynysu eu hunain yn sgil y coronafeirws.

Mae’r corff yn annog ac yn atgoffa pobol i beidio â theithio’n ddiangen, yn unol â chyngor arbenigwyr.

Maen nhw’n dweud na fydd ganddyn nhw ddewis ond cau lleoliadau awyr agored oni bai bod pobol yn gwrando ar y cyngor.

“Tra ein bod ni’n gwybod fod pobol eisiau treulio amser yn yr awyr agored dros yr wythnosau i ddod, rydym yn gofyn i bobol ddilyn arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ymbellháu cymdeithasol,” meddai llefarydd.

“Osgowch gynulliadau mawr a bach mewn mannau cyhoeddus a pheidiwch â theithio’n ddiangen.

“Ein cyngor yw i chi ofalu amdanoch chi eich hunain a lle bo’n bosib, ymlaciwch a chadwch yn heini drwy barhau i ymchwilio a mwynhau mannau lleol yn agos i adref.”