Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesur er mwyn gwarchod cymunedau gwledig yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Fe ddaw wrth i bobol heidio i’r ardal i ynysu eu hunain ar y diwrnod prysuraf erioed yn yr ardal o ran ymwelwyr.

Mae’r Awdurdod yn dweud bod ganddyn nhw bryderon nad yw’r canllawiau ar gyfer hunanynysu yn ddigon clir.

Yn benodol, maen nhw eisiau eglurder ynghylch beth yn union yw “ymbellháu cymdeithasol” a beth sy’n cael ei ystyried yn “deithio hanfodol”.

Ac maen nhw’n galw ar bobol i beidio â mynd yno ar eu gwyliau am y tro.

“Nos Wener, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog gyfyngiadau newydd er mwyn arafu lledaeniaid y firws,” meddai Emyr Williams, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

“Roedd hyn yn cynnwys gorchymyn i gau’r holl dafarndai, caffis a gwestai.

“O fewn y 24 awr yn dilyn y cyhoeddiad hwn, rydym wedi gweld sefyllfaoedd digynsail yn Eryri.

“Rydym wedi profi’r diwrnod prysuraf erioed o ran ymwelwyr.

“Mae’r ardal wedi bod dan ei sang gydag ymwelwyr.

“Yr hyn sy’n peri hyd yn oed mwy o ofid yw’r tyrfaoedd sylweddol ar gopaon mynyddoedd a llwybrau, gan ei gwneud hi’n amhosib cadw pellter yn effeithiol.”

‘Camau llym’

Mae Emyr Williams yn rhybuddio y gallai’r Awdurdod orfod cymryd “camau llym” os nad yw pobol yn fodlon cadw draw.

Mae’n dweud y gallai’r rhain gynnwys cau meysydd parcio a llwybrau.

“Mae busnesau lleol yn Eryri sy’n ddibynnol ar y sector twristiaeth wedi bod yn arwain y ffordd wrth wneud penderfyniadau dewr dros yr ychydig ddyddiau diwethaf er gwaethaf yr effaith economaidd arnynt.

“Mae atyniadau mawr wedi cau eu gatiau, mae darparwyr gweithgareddau bychain yn canslo eu digwyddiadau a’u teithiau tywys.

“Mae bwytai a thafarndai lleol yn symud eu ffocws tuag at helpu eu cymunedau trwy ddarparu a chludo prydau i’r henoed a’r rhai sy’n hunan-ynysu.

“Mae’r cymunedau a’r busnesau o fewn y Parc Cenedlaethol yn dod ynghyd er mwyn helpu ei gilydd, ac rydym angen i’n hymwelwyr wneud yr un peth.

“Mae’r llif anferth hwn i Eryri a Gogledd Cymru yn gyffredinol wedi achosi pryderon mawr yn lleol, gyda phobl yn gofidio ynghylch y pwysau cynyddol ar y GIG, gwasanaethau achub, cyflenwadau bwyd a’r isadeiledd twristiaeth, sydd eisoes dan bwysau oherwydd y pandemig.

“Yn ystod y dyddiau heriol yma bydd  Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn canolbwyntio ei holl ymdrech ac adnoddau dros y dyddiau a’r wythnosau sydd i ddod ar ofalu am y cymunedau a’r busnesau o fewn ac o amgylch y Parc Cenedlaethol.

“Byddwn yn falch o groesawu ymwelwyr yn ôl i’r rhan fendigedig hon o’r wlad unwaith fydd y sefyllfa wedi gwella.”