Mae’r ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis yn dweud bod Llywodraeth Prydain yn “amaturaidd” wrth ymateb i argyfwng hyd at 400 o bobol o wledydd Prydain sy’n methu dod adref o Beriw.

Mae Ffred Ffransis a’i wraig Meinir ymhlith y rhai sydd wedi teithio i’r wlad ond sydd wedi’u cadw yno o ganlyniad i’r coronafeirws.

Mae e’n dioddef o Anhwylder Systolig y Fentrigl Chwith, sy’n ei gwneud hi’n anodd iddo anadlu, a chan fod Cusco yn uchel yn yr Andes ble mae’r aer yn denau, gallai fod yn beryglus iddo yno.

Caeodd Periw ei holl ffiniau ar Fawrth 15 gyda dim ond 24 awr o rybudd, a doedd dim digon o amser i nifer o bobol drefnu trafnidiaeth o’r wlad gan fod pob hediad yn llawn.

Golyga hyn fod miloedd o bobol heb ffordd o adael y wlad, gan gynnwys 400 o ddinasyddion gwledydd Prydain.

Cefndir

Does dim modd i’r 400 o ddinasyddion gwledydd Prydain deithio adref ar ôl i Beriw gau ei ffiniau yn sgil y coronafeirws.

Maen nhw’n gofidio bod y cyfle i gael eu cludo adref yn dod i ben cyn i’r rheolau teithio gael eu tynhau.

Ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n siomedig ag ymateb Llywodraeth Prydain i’r sefyllfa, wrth i’r llywodraeth ddweud eu bod nhw’n gobeithio sicrhau llefydd ar awyrennau i’w cludo nhw adre’r wythnos hon.

Yn sgil cau ffiniau’r wlad, dydy awyrennau ddim yn cael dod i mewn nac allan heb ganiatâd Llywodraeth Periw.

Ac mae cyrffiw rhwng 8yh a 5yb, gyda’r holl siopau ynghau ac eithrio fferyllfeydd a siopau bwyd.

Mae trigolion gwledydd Prydain wedi cael cyngor i ddod o hyd i lety dros dro am bythefnos yn dilyn cyhoeddi argyfwng.

Mae’r Swyddfa Dramor yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod yn union faint o drigolion gwledydd Prydain sydd yn y wlad.

Ond fel Ffred Ffransis, mae gan nifer ohonyn nhw gyflyrau iechyd difrifol.

Yn ôl Dominic Raab, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, mae oddeutu miliwn o bobol o wledydd Prydain wedi teithio dramor ac yn cael anhawster dod adref.

‘Pa mor amaturaidd all Llywodraeth Prydain fod?’

Heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 21) ar ei dudalen Twitter, mae Ffred Ffransis yn rhannu ffrwd newyddion Rory Boland, golygydd Which? Travel, lle mae’n sôn am ddiffyg ymateb Llywodraeth Prydain i’r sefyllfa.

Wrth rannu’r ffrwd, mae Ffred Ffransis yn gofyn “pa mor amaturaidd all Llywodraeth Prydain fod?”

Wrth ddechrau’r ffrwd, dywed Rory Boland fod y llywodraeth “yn gwneud cyn lleied ar ran rhai pobol”.

Mae’n dweud i unigolyn ffonio Llysgenhadaeth Prydain a chael gwybod ei bod ynghau, ond fod modd siarad â swyddog conswlaidd yn Llundain.

Mae’n dweud wedyn bod y swyddog conswlaidd wedi cynghori’r unigolyn i ffonio’r Llysgenhadaeth ond mae’n egluro ei bod ynghau.

Mae’n cael gwybod mai’r Llysgenhadaeth yn unig all rhoi dogfen hawl i deithio, ac yn gofyn a fyddai modd i’r Llysgenhadaeth ym Mheriw roi’r ddogfen gan fod y swyddfa yn Llundain ynghau.

Ar ôl aros cryn amser ar y ffôn, mae’n cael gwybod fod rhaid siarad â’r Llysgenhadaeth yn Llundain, ond fod rhaid aros iddi agor eto fore Llun.

Mae’n gofyn am gadarnhad o hyn, ac mae’r llinell yn marw wrth i’r alwad ddod i ben.