Bydd myfyrwyr TGAU a Safon Uwch yng Nghymru’n derbyn graddau “teg” ar sail y gwaith maen nhw eisoes wedi’i gyflwyno, yn ôl Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Cymru.

Daw’r sicrwydd ar ôl i ysgolion gael eu cau ac arholiadau eu canslo oherwydd y coronafeirws.

Bydd myfyrwyr yn derbyn eu canlyniadau terfynol ym mis Awst, ond fyddan nhw ddim yn cynnwys marciau arholiadau.

“Mae’n bwysig iawn nad yw’r un myfyriwr sy’n sefyll TGAU eleni dan anfantais,” meddai.

“Dyna pam ein bod ni’n gweithio’n galed iawn i sicrhau eich bod chi’n cael graddau teg am yr holl waith caled rydych chi wedi’i wneud dros nifer o flynyddoedd.”

Bydd myfyrwyr BTEC a Bagloriaeth Cymru hefyd yn derbyn graddau.

Ond yn dilyn y cyhoeddiad am ganslo arholiadau, roedd pryderon am sefyllfa myfyrwyr ym Mlwyddyn 10, sef blwyddyn gyntaf TGAU, a blwyddyn 12, sef myfyrwyr Uwch Gyfrannol sy’n sefyll arholiadau Safon Uwch y flwyddyn nesaf.

Yn ôl Kirsty Williams, does gan Lywodraeth Cymru “ddim gwybodaeth” i’w chynnig iddyn nhw ar hyn o bryd, ond maen nhw’n “edrych ar opsiynau amgen y gellid eu rhoi yn eu lle”.

Cymorth

Yn y cyfamser, bydd £7m yn cael ei neilltuo ar gyfer plant sy’n derbyn prydau bwyd rhad ac am ddim yn yr ysgol.

Bydd modd casglu’r prydau o’r ysgol neu eu hanfon nhw adref at y plant neu i ganolfannau cymunedol.

Bydd modd hefyd i awdurdodau lleol roi cardiau a thalebau i blant gael prynu bwyd mewn siopau.

“Mae’n hanfodol fod plant sy’n derbyn prydau bwyd am ddim yn yr ysgol yn gallu parhau i elwa ar y gefnogaeth hon yn ystod y cyfnod ansicr hwn,” meddai Kirsty Williams.