Mae Drew Jones, sy’n 16 oed ac yn dod o Sgiwen ger Castell-nedd wedi’i ddedfrydu i bedair blynedd o garchar am ddynladdiad Mark Winchcombe.

Bu farw Mark Winchcombe o’i anafiadau yn dilyn ymosodiad yn Abaty Nedd ddydd Sul (Medi 1).

Dywed Christine, ei wraig, fod ei farwolaeth wedi dinistrio a newid bywyd ei theulu am byth.

Mewn datganiad dioddefwr i’r llys, trafododd hi effaith marwolaeth ei gŵr, ar ôl iddi golli ei chartref a’i busnes.

“Roedd Mark yn dad balch, cariadus a chefnogol, ond mae wedi cael ei gymryd oddi wrth fy mab sydd ddim ond yn ugain oed,” meddai.

“Roedden ni’n briod am 23 o flynyddoedd.

“Nid yn unig dw i wedi colli gŵr, dwi wedi colli fy ffrind gorau a’r dyn y gallwn i droi ato am unrhyw beth.

“Hoffwn ddiolch i Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron am helpu i gael cyfiawnder i Mark.”