Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru am sicrhau bod £10m ar gael i gynghorau yng Nghymru i’w helpu i ddiogelu pobol ddigartref yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mae’r cyllid ychwanegol am alluogi awdurdodau lleol i sicrhau’r llety angenrheidiol i ddiogelu a chefnogi pobol sydd heb gartref, a’u hynysu os oes angen.
Gallai hyn gynnwys prynu ystafelloedd gwely a brecwast neu ystafelloedd gwesty, llety myfyrwyr ac eiddo eraill mewn bloc.
Bydd disgwyl i weithwyr proffesiynol yn y sector hwn reoli a chefnogi’r ddarpariaeth.
Camau eraill
Mae Gweinidogion hefyd yn gweithredu i sicrhau bod pobol sydd heb hawl i arian cyhoeddus, megis pobol sydd wedi’u cam-drin yn ddomestig a cheiswyr lloches, yn cael cymorth yn ystod y cyfnod hwn.
Ar hyn o bryd, mae’r gyfraith yn atal Gweinidogion rhag cynnig mathau penodol o gymorth i’r unigolion hyn, gan gynnwys cymorth tai.
Mae cyfarwyddyd wedi’i roi i awdurdodau lleol i ddefnyddio pwerau a chyllid eraill i helpu’r bobol sydd angen lloches a mathau eraill o gymorth yn ystod y pandemig.
“Bydd y £10m o gymorth ariannol rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn sicrhau bod pobol sy’n cysgu allan, neu mewn perygl o orfod cysgu allan, a phobol sydd mewn llety anaddas dros dro, yn cael y cymorth a’r adnoddau y maent eu hangen i’w diogelu yn ystod y cyfnod hwn,” meddai’r Gweinidog Tai, Julie James.