Mae Undeb Rygbi Cymru wedi rhoi terfyn ar y tymor rygbi oherwydd y coronafeirws.

Ni fydd unrhyw gemau cynghrair na chwpan yn yr hyn sy’n weddill o’r tymor presennol.

Bydd yr holl dimau yn aros yn eu cynghreiriau presennol, gyda’r un clwb yn medru ennill dyrchafiad na chwympo.

“Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad,” meddai Martyn Phillips, Prif Swyddog yr Undeb.

“Rydym yn hynod ymwybodol o’r effaith fydd hyn yn ei gael ar glybiau oedd yn llygadu dyrchafiad neu gyda chyfle i ennill cystadlaethau…

“Ond ar ddiwedd y dydd bu yn rhaid i ni wneud penderfyniad i sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan yn yr ymdrech i ddiogelu cymunedau Cymru.”