Mae Gweinidog yr Economi wedi galw ar Gymry i “ystyried eu cymdogion, cydweithwyr a phobol fregus cymdeithas” cyn mynd ati i hordio bwyd.

Daw’r sylw gan Ken Skates mewn ymateb i’r silffoedd gwag mewn archfarchnadoedd ledled y wlad.

Wrth i fesurau lymhau i ddelio â’r coronafeirws, mae rhai wedi troi at brynu gormodedd o nwyddau mewn siopau.

Mae Ken Skates wedi galw ar siopwyr i fod yn “drugarog”.

“Yn ystod cyfnod o argyfwng, mae’n hollol resymol i bobol ymddwyn mewn ffordd nad yw’n arferol,” meddai.

“Pe bai pobol Cymru yn ymddwyn fel y maen nhw yn ei wneud fel arfer, fydden ni ddim yn profi beth sy’n digwydd yn awr. Mae yna ddigon o fwyd i bawb. Mi fydd yna ddigon o fwyd i bawb.

“Ond mae’n rhaid i ni weithredu yn gyfrifol fel cymdeithas.”

Oedi â chymorth

Wrth gyhoeddi’i gyllideb ar Fawrth 11, datgelodd Rishi Sunak, y Canghellor, cyfres o fesurau i helpu busnesau ymdopi â’r coronafeirws.

Dywedodd y byddai saib mewn trethi busnes i fusnesau manwerthu, croeso a hamdden; ac y byddai grantiau o filoedd ar gael i’r un sector.

Ni ddaeth cyhoeddiad tebyg yng Nghymru tan bron i wythnos yn ddiweddarach, a bu ymateb chwyrn i’r oedi. Yn siarad â’r wasg heddiw, cynigodd Ken Skates esboniad am yr oedi.

“Doedden ni [Llywodraeth Cymru] ddim yn rhan o’r cynllunio (intervention planning),” meddai. “Clywsom ni am yr arian pan wnaethoch chi glywed am yr arian.

“Felly roedd yn rhaid i ni weithredu’n gyflym wrth benderfynu faint yr oeddem ni’n gallu ei fforddio gyda’r consequential [hynny yw, y swm o arian a dderbyniwyd gan Loegr i’w fuddsoddi ym myd busnes].

“A dw i’n falch i ddweud, oherwydd y gwaith caled yna dros gyfnod byr o amser wnaethom fynd yn bellach na jest cynnig yr un faint â Lloegr.”

Ddoe mi gyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn £1.4bn i helpu busnesau bach (roedd Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi grantiau tebyg yn ôl yn y gyllideb).