Mae doctor o orllewin Cymru wedi dyfeisio peiriant a all helpu yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.

Mae Dr Rhys Thomas yn anesthetydd ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin; a bellach mae wedi creu ‘peiriant anadlu’ a allai gael ei ddefnyddio mewn ysbytai.

Mewn neges ar Facebook mae’n dweud y bu iddo gydweithio â pheiriannydd o Fetws, Rhydaman, sydd yn berchen ar ffatri sydd yn cynhyrchu offer hydrolig.

Wnaethon nhw greu tri phrototeip o fewn 30 awr, mi wnaeth Dr Rhys Thomas brofi’r teclyn ar ei hun – er gwaetha’r perygl sydd ynghlwm â hynny – ac mae’n credu “ein bod wedi llwyddo”.

“Mae’r peiriant yma wedi cael ei ddylunio yn arbennig ar gyfer y pandemig yma ar sail cyngor gan y sawl doctor dewr yn yr Eidal,” meddai yn y neges.

“Mae’n bosib y gall hyn achub cannoedd o fywydau. Mae’r her yn anferthol. Rydym angen o leiaf 1,000 yn rhagor o beiriannau anadlu yng Nghymru fel ein bod yn medru trin mwyafrif o’n cleifion.

“Dw i’n gobeithio y gall hyn helpu ein hachos.”

Mae golwg360 yn deall y gallai’r cwmni o Fetws gynhyrchu’r peiriannau yn eu cannoedd, ac mae un ffynhonnell yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi sêl bendith i’r prosiect.

Y doctor

Bu Dr Rhys Thomas yn ddoctor â’r Frigâd Awyr yn Afghanistan, ac mi gyfrannodd at sefydlu Ambiwlans Awyr Cymru.

Ef oedd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn etholiad Cynulliad 2019, ac mae’n dweud mai Adam Price wnaeth ei herio i greu’r peiriant.

Mae coronafeirws – neu Covid-19 – yn effeithio ar allu pobol i anadlu, ac mae’r peiriannau yn holl bwysig i’r lleiafrif o bobol sydd â symptomau difrifol.

Mae’r dyfeisiau yn pwmpio ocsigen i’r ysgyfaint ac yn tynnu carbon deuocsid o’r corff.