Mae Leanne Wood yn rhagweld y bydd angen cymorth ar dros 1,000 o bobol yn y Rhondda, ac mae’r Aelod Cynulliad wedi bod yn trefnu bod gwirfoddolwyr ar gael i helpu.

Fe ddywedodd cyn-Arweinydd Plaid Cymru wrth gylchgrawn Golwg bod ymateb pobol y Rhondda i’r llifogydd diweddar, yn arwydd o’r parodrwydd i wirfoddoli a helpu.

“Mae’r ymdeimlad o gymuned o hyd yn gryf yma,” meddai Leanne Wood. “Mae rhywbeth yno. Ac, ydw, dw i’n optimistaidd iawn.

“Mewn tua 36 awr cawsom tua 1,000 o bobol yn ymuno gyda’r grŵp Facebook. Erbyn hyn mae 2,600-2,700 o bobol wedi tanysgrifio.”

Mae rhai unigolion a fydd angen cymorth wedi tanysgrifio, meddai, ac mae’n disgwyl y bydd y misoedd nesaf yn “straen”.

Ond mae’n “rhaid i ni drio”, meddai, ac mae’r etholaeth mewn sefyllfa dda i ddelio a’r her.

“Fan hyn yn y Rhondda mae llawer o bobol hŷn, a sâl, eisoes gyda chymorth,” meddai. “Mae ganddyn nhw aelodau teulu a chymdogion.

“Mae gan lwythi o bobol gymdogion sydd â’r allwedd i’w tŷ. Mae’r rhwydweithiau yma eisoes yn bodoli ar lefel anffurfiol.

“Wedi dweud hynny, rydym ni’n trio gwneud yn siŵr bod gan bawb rhywun i’w helpu.”

Mwy am hyn – yr ymdrechion i gasglu gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd – yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg