Mae BBC Cymru Wales wedi amlinellu sut y bydd yn ymateb i anghenion newydd cynulleidfaoedd yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “Ry’n ni mewn cyfnod heriol i gymunedau ar hyd a lled Cymru a’n ymrwymiad ni yw i fod yno i bawb.

“Y flaenoriaeth yw sicrhau fod pawb yn cael y wybodaeth ddiweddaraf a hynny ar fyrder. Byddwn hefyd yn cynnig help llaw i filoedd o wrandawyr ar draws ein gwasanaethau radio ac yn codi’r ysbryd hefyd.”

Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi cyfres o newidiadau golygyddol i ymateb i’r argyfwng.

  • Ddydd Llun (Mawrth 23), bydd Owen Money yn lansio rhaglen Golden Hour newydd am 10 yr hwyr ar BBC Radio Wales.
  • Mae rhaglen Wynne Evans hefyd yn lansio eitem newydd wythnos nesaf ar BBC Radio Wales sef the Generation Gap er mwyn gysylltu wyrion â theidiau a neiniau sydd methu gweld ei gilydd yn ystod yr argyfwng.
  • Heddiw (dydd Gwener, Mawrth 20) bydd y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru yn ymestyn i 9 y bore a bydd cyfle i wrandawyr ffonio i ofyn cwestiynau i banel o arbenigwyr.
  • Hefyd ar BBC Radio Cymru, bydd rhaglen Aled Hughes yn cynnwys slot ddyddiol newydd i ddathlu ymdrechion y gwirfoddolwyr. A bydd rhaglen Bore Cothi yn creu clwb newydd i bobl dros 70 oed sy’n hunan ynysu neu’n ymbellhau yn gymdeithasol.
  • Bydd y ddwy orsaf yn cynnal rhaglenni crefyddol, gan ganiatáu i ddilynwyr crefyddol a dyneiddiol gyfarfod gan ddefnyddio Skype.
  • Mae’r ddwy orsaf hefyd yn cynllunio i gyd-weithio gyda phrosiect cerddoriaeth Gorwelion i ddarlledu sesiynau cerddoriaeth yn fyw o ystafelloedd fyw’r artistiaid.
  • Bydd casgliad newydd arbennig o raglenni BBC Cymru o’r gorffennol yn cael eu rhoi ar BBC iPlayer.
  • Bydd Adran Addysg BBC Cymru yn cyhoeddi erthygl ar gyfer rhieni a phlant yng Nghymru ar sut i ddefnyddio Bitesize ar gyfer cynnwys sydd yn benodol i Gymru ynghyd â chyfoeth o gynnwys arall.
  • Mae tîm BBC Wales Investigates yn gweithio ar brosiect i gasglu’r straeon personol o’r pandemig Coronafeirws, gan ddarparu camerâu i deuluoedd ar draws Cymru.
  • Ar BBC Sesh bydd cyfranwyr sydd â chyflyrau megis OCD, gorbryder a pharlys yr ymennydd yn ysgrifennu erthyglau a blogiau i ddisgrifio’r effaith a geir ar eu bywydau, yn ogystal â awgrymiadau defnyddiol.