Mae deddfwriaeth a fydd yn rhwystro plant rhag cael eu taro bellach wedi derbyn cydsyniad brenhinol.

Cafodd y Bil ei basio gan y Cynulliad ym mis Ionawr, a heddiw (dydd Gwener, Mawrth 20) mi ddaeth yn ‘Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyn Cosb Resymol)’.

Mi fydd y gyfraith yn dod i rym ym mis Mawrth 2022, ac mi fydd yn rhwystro rhieni rhag gallu cyfiawnhau curo eu plant.

Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi diolch y rheiny a fu’n gefnogol o’r ddeddfwriaeth.

“Er bod selio’r Bil wedi cael ei wneud tu ôl i ddrysau caeedig oherwydd achosion o Covid-19, rydyn ni’n falch o fod wedi cymryd y cam hanesyddol hwn i helpu i warchod plant a’u hawliau,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymgyrchu dros y ddeddfwriaeth hon a’i chefnogi.”

Mater dadleuol

Cafodd y ddeddfwriaeth ei beirniadu gan y Ceidwadwyr yn ôl ym mis Ionawr, a’u dadl oedd y byddai’n arwain at y wladwriaeth yn ymyrryd yn ormodol â bywydau preifat a theuluoedd.

Does dim diffiniad iawn gyda’r Llywodraeth o’r hyn sy’n cyfri’n ‘taro’, ond maen nhw’n mynnu na fydd rhieni’n cael eu rhwystro rhag cario’u plant tra’u bod yn camfihafio, ac ati.