Dylai Llywodraeth Cymru feddiannu ystafelloedd mewn gwestyau ac yna eu darparu i bobol ddigartref.

Dyna mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Delyth Jewell, wedi ei ddweud wrth i nifer yr achosion o’r coronafeirws gynyddu yng Nghymru.

Mae disgwyl i’r Bil Coronafeirws ddod i rym yr wythnos nesaf, ac mi fydd y ddeddfwriaeth honno yn gosod llawer o bŵer yn nwylo llywodraethau’r Deyrnas Unedig.

Ym marn yr Aelod Cynulliad dylai Llywodraeth Cymru achub ar y cyfle, a sicrhau bod gan bobol ddigartref Cymru do uwch eu pennau.

“Meddiannu gwestyau”

“Pan ddaw at y coronafeirws mae pobol ddigartref yn fwy bregus na llawer,” meddai, “a hynny am eu bod yn fwy tebygol o fod ag anhwylderau iechyd a sustemau imiwnedd gwan.

“Byddan nhw hefyd yn cael trafferth yn cael gafael ar y gwasanaethau maen nhw eu hangen. Felly dylai Llywodraeth Cymru wneud ymdrech bwriadol i achub llawer o fywydau.

“Gallan nhw wneud hynny trwy ddefnyddio’r ystod eang o bwerau sydd yn y Bil Coronafeirws. Mi fydden nhw’n medru meddiannu gwestyau gwag a rhoi to uwch ben y rheiny sydd mewn angen.”

Ar ddechrau’r wythnos dywedodd Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, y gallai’r wlad feddiannu gwestyau fel bod modd i weithwyr iechyd fyw yn agosach i’w gweithleoedd.