Mae Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn yn Sir Gaerfyrddin wedi cau ddiwrnod yn gynnar wedi iddi ddod i’r amlwg fod aelod o staff wedi cael coronafeirws.

Mewn neges at rieni a gofalwyr, dywedodd pennaeth Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf ei fod yn disgwyl i’r ysgol fod ar gau am o leiaf bedair wythnos.

Roedd yr ysgol i fod i gau yfory (dydd Gwener Mawrth 20) yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru fod gwyliau Pasg pob ysgol yng Nghymru yn dechrau’n gynnar.

“Rwy’n deall fod y penderfyniad yma yn ddirybudd a bydd yn achosi trafferthion i lawer o deuluoedd,” meddai pennaeth Ysgol Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn, Julian Kennedy.

“Fodd bynnag, dyma yn amlwg yw’r cam mwyaf diogel, a’r cam mwyaf synhwyrol o’r herwydd.”