Does dim cynlluniau yn yr arfaeth i gyflwyno lockdown yng Nghymru yn y dyfodol agos, yn ôl y Prif Weinidog.

Wrth i’r mesurau hunan-ynysu fynd yn llymach, ac wrth i nifer achosion coronafeirws gynyddu, mae cryn ddyfalu y gall ganllawiau droi’n llawer mwy llawdrwm.

Ar gyfryngau cymdeithasol mae sïon yn dew bod y fyddin ar fin cael ei chyfeirio at y gwaith o orfodi trefn.

Ond yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg fore heddiw – ac yn dilyn cyfarfod â Boris Johnson – mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi wfftio hynny’n llwyr.

“Dywedodd y Prif Weinidog [y Deyrnas Unedig] ddoe nad oes modd diystyru unrhyw opsiwn,” meddai.

“A hynny oherwydd efallai bydd yn rhaid cyflwyno rhagor o fesurau i leihau nifer yr achosion o’r haint yma fel bod y Gwasanaeth Iechyd yn medru ymdopi.

“Wedi dweud hynny, doedd dim trafodaeth ddoe, a does dim cynlluniau o’r fath ar fin cael eu cyhoeddi yng Nghymru.”

Deddfwriaeth

Mae disgwyl i ddeddfwriaeth ddod gerbron Tŷ’r Cyffredin yn ddiweddarach heddiw, a fydd yn cyfrannu tuag at yr ymdrech yn erbyn coronafeirws.

Dyma oedd prif destun trafod Mark Drakeford yn y gynhadledd i’r wasg, a cheisiodd darbwyllo newyddiadurwyr na fyddai’r ddeddfwriaeth yn tanseilio rhyddid y cyhoedd.

“Mae’r Bil yn rhoi pwerau newydd i weinidogion yma yng Nghymru fod yn fwy hyblyg yn y ffordd yr ydym ni’n darparu gwasanaethau ac i helpu pobol ar y rheng flaen i wneud y gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud.

“Mae’r Bil yn rhoi pwerau newydd i ni i wneud y pethau difrifol os bydd yn rhaid i ni wneud nhw. Ond yn gyffredinol mae’r Bil yn bwysig am ei fod yn rhoi mwy o bwerau i ni helpu pobol sy’n darparu gwasanaethau i wneud y gwaith pwysig maen nhw’n ei wneud mewn ffyrdd haws a mwy hyblyg.”

Vaughan Gething yn ôl wrth ei waith

Bu’n rhaid i’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, hunan-ynysu ar ddechrau’r wythnos pan ddaeth i’r amlwg bod ei fab â symptomau’r haint.

Bellach mae wedi cael ei brofi am yr haint, wedi derbyn diagnosis negyddol, ac wedi dychwelyd at ei waith.

Mae hynny wedi codi gwrychyn ambell un am nad yw trwch y boblogaeth yn gymwys am brawf, ac aeth Mark Drakeford ati i gyfiawnhau’r cam yn y gynhadledd.

“Mae cael eich Gweinidog Iechyd wrth ei ddesg, gyda’r gallu i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau, gyda’r gallu i fod yn atebol i’r Senedd … wel, mae hwnna’n ei roi mewn sefyllfa wahanol,” meddai.

“Ac mae’n newyddion da iddo ef ond mae’n newyddion da i Gymru hefyd.

“Dw i’n credu y bydd pobol yn deall [y cam], yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi, lle mae’r penderfyniadau mae gweinidogion yn eu gwneud yn cael effeithiau mor ddifrifol…”