Mae tri dyn wedi cael eu harestio yn dilyn lladradau o nifer o giosgau ffôn cyhoeddus ar hyd arfordir Ceredigion.

Digwyddodd y lladradau yn ystod nos Fawrth, 25 Hydref. Roedd lladron wedi targedu ciosgau yng nghanol tref Aberystwyth ac mewn nifer o bentrefi ar hyd yr A487 i’r de, mor bell â Synod Inn.

Mae’r tri dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Roedd y dynion yn teithio mewn car Volkswagen Golf, lliw arian, pan gafon nhw eu hatal gan yr heddlu, a’u harestio.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i’r mater, ac yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y cerbyd, neu weld dynion yn ymddwyn yn amheus yn ystod nos Fawrth 25 Hydref, i gysylltu â’r CID yn Aberystwyth ar 101.