Wrth ymateb i’r holl newyddion am y coronafeirws ar hyd gwefannau cymdeithasol a’r cyfryngau  mae rhai wedi mynd ati i geisio codi calonnau gyda chân, yng ngwir draddodiad y Cymry.

Syniad Catrin Angharad Jones o Ynys Môn ydi’r dudalen Facebook “CÔR-ONA!”

Mae Catrin yn gyn-athrawes, yn gantores, arweinyddes, beirniad a nawr yn helpu i ddiddanu’r genedl a’r rhai sydd wedi gorfod ynysu eu hunain yn barod.

“Mi wnes i ddechrau achos ro’n i’n gwybod bod gen i griw o bobl hŷn yn ffrindiau ar Facebook sy’n arfer mynd i’r côr a’r eglwys a ballu, ac oni’n meddwl y basa’n neis iddyn nhw gael rhywle lle da ni’n postio emynau iddyn nhw gael sing song!”

“Rhyw 20-30 o aelodau oedd y plan!”

Ers i’r dudalen ymddangos fore dydd Mawrth, (Mawrth 17), mae dros 4,000 o aelodau wedi ymuno.

“Cysylltu hefo’n gilydd”

“Ro’n i wedi meddwl iddo fod i hogia’r côr sydd gen i hefyd, Hogia Llanbobman, achos o’n i’n meddwl bechod na fydda i’n eu gweld nhw rŵan am yn hir chwaith. Oni’n meddwl y bydda fo’n ffordd fach neis i ni gysylltu hefo’n gilydd a chael ychydig o hwyl a dal i ganu.”

Roedd Catrin wedi ystyried creu côr agored rhyw dro yn ôl ar y cyfryngau cymdeithasol, ond teimlodd fod y digwyddiadau diweddar yn gyfle gwych i’w ddechrau a chanolbwyntio ar yr emyn.

“Mae’r criw oedran mam a dad y  gwybod eu hemynau, maen nhw’n joio eu hemynau a falla emynau maen nhw am ei golli fwy ‘na dim am nad ydyn nhw am gael mynd i’r eglwys rŵan. Felly dyna pam nes i ddewis emynau i ddechrau, ond mi fydd pethau yn newid rŵan.”

Mae pobl wedi bod yn anfon pob mathau o glipiau fideo o’u plant yn canu, perfformiadau mewn cyngherddau a chanu emynau yn eu cartrefi tra’n cael eu hynysu.

Mae Catrin wedi penderfynu cael trefn ar bethau, a heddiw (Mawrth 18) mi fydd hi’n ddiwrnod yr Altos. Mae gofyn i bobl anfon llinell alto emyn fel bod pawb arall yn medru canu eu llinell nhw, boed yn soprano, denor neu bas gyda nhw.

Fory, mi fydd hi’n ddiwrnod Sol-ffa, ac felly mi fydd angen postio emyn gyda chopi Sol-ffa.

“Dros y penwythnos” meddai Catrin “mi fydd hi’n Sul y Mamau, pam ddim postio can sy’n deyrnged    i mam?”

A chyda trefniadau pawb i’r penwythnos a’r wythnosau nesaf yn newid, efallai mai dyma fydd yr ateb i godi’n calonnau ni gyd.