Mae sefyllfa seremonïau graddio prifysgolion Cymru’n aneglur ar hyn o bryd, yn ôl yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrth golwg360.

Yn dilyn cyhoeddiad Prifysgol Caerdydd eu bod nhw’n gohirio seremonïau graddio oherwydd pryderon am ledaenu’r coronafeirws, rydym wedi holi prifysgolion eraill yng Nghymru a ydyn nhw am gymryd yr un camau.

Yn ôl Prifysgol Abertawe, bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud y prynhawn yma (dydd Mercher, Mawrth 18), ond does dim awgrym beth yn union yw’r penderfyniad eto.

Mae’r sefyllfa ym Mhrifysgol Aberystwyth dan ystyriaeth ar hyn o bryd.

A dydy Prifysgol Bangor ddim wedi penderfynu hyd yn hyn.