Dylid gohirio pob priodas cyn diwedd Gorffennaf, a dim ond ar lan y bedd neu mewn amlosgfa y dylid cynnal angladdau, yn ôl argymhellion yr Eglwys yng Nghymru i fynd i’r afael â’r coronafeirws.

Maen nhw’n awgrymu y dylid hefyd gyfyngu gwasanaethau bedyddio i ddim mwy na 10 o bobol.

Mewn datganiad, dywed yr Eglwys yng Nghymru y dylid hefyd ohirio pob gwasanaeth arferol tan fis Mehefin, a’u bod nhw wedi gwneud y dewisiadau yma yn dilyn cyngor newydd gan Lywodraeth Prydain i osgoi cyswllt cymdeithasol nad yw’n hanfodol.

Cynghori i gau ond i gadw mewn cysylltiad

Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg hefyd yn cynghori 400 o eglwysi i beidio â chynnal oedfa neu gyfarfod cyhoeddus mewn capel nac unrhyw adeilad arall tan bod cyfarwyddyd pellach am y coronafeirws.

Mae’r Undeb yn annog pob eglwys i lunio cynllun i gadw mewn cyswllt gydag aelodau i ofalu am yr henoed a’r bregus.