Mae Clwb Ifor Bach wedi cyhoeddi eu bod yn cau eu drysau am gyfnod, gan ohirio digwyddiadau yno yn sgil coronafeirws.

Bydd Clwb Ifor Bach yn “aildrefnu’r digwyddiadau sydd wedi’u heffeithio hyd gorau ein gallu.”

“Doedd y penderfyniad yma ddim yn hawdd, ond dyma obeithio eich bod chi’n cytuno mai dyma’r penderfyniad cywir,” meddai datganiad gan y Clwb.

“Bydd modd i chi gael yr wybodaeth a’r newyddion diweddaraf trwy ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan wrth i ni gadarnhau pethau.”

Mae Clwb Ifor Bach yn cynnal digwyddiadau cerddorol megis gigs a nosweithiau clwb sawl gwaith yr wythnos.

“Bydd yr holl docynnau cyfredol yn parhau’n ddilys ar gyfer y dyddiad newydd a bydd ad-daliadau ar gyfer unrhyw sioeau a gafodd eu canslo neu’u gohirio ar gael o’r man prynu gwreiddiol os nag oes modd i chi fynychu’r digwyddiad ar y dyddiad newydd.”