Gall pobol Cymru wynebu’r coronafeirws gyda’i gilydd, os yw pawb yn gweithio gyda’i gilydd, yn ôl Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.

Bydd pobol Cymru yn wynebu “mesurau llym” yn ystod yr wythnosau nesaf er mwyn rhwystro’r coronafeiws rhag lledu, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae un person, a oedd yn ei 60au ac a oedd â problemau iechyd, eisoes wedi marw o’r feirws yng Nghymru a bydd rhagor o fesurau draconaidd yn cael eu cymryd i leihau nifer y marwolaethau.

“Dwi’n gwybod bod pobl yn ofidus, ond os gweithiwn ni gyda’n gilydd, gallwn wynebu hyn gyda’n gilydd,” meddai Julie James.

“Bydd y mwyafrif o bobol sy’n cael coronafeirws yn datblygu salwch ysgafn, a byddan nhw’n gwella ohono.

“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod rhai pobol mewn risg o ddatblygu salwch mwy difrifol ac yn anffodus, mae rhaid pobol wedi marw.”

Cyngor Boris Johnson

Roedd Julie James yn adleisio’r cyngor sydd wedi’i roi gan Boris Johnson, a gyflwynodd fesurau newydd i geisio rhwystro’r feirws rhag lledaenu ddoe (dydd Llun, Mawrth 16).

Galwodd y Prif Weinidog ar bobol y Deyrnas Unedig i osgoi tafarndai, clybiau a theatrau, unrhyw gysylltiad gyda phobol eraill sydd ddim yn angenrheidiol, ynghyd â theithio os nad oes angen, a gweithio o adref os yn bosib.

Aeth yn ei flaen i ddweud bod unrhyw un sy’n byw gyda rhywun sydd â pheswch parhaus neu dymheredd yn gorfod ynysu eu hunain am 14 diwrnod.

“Mae hynny’n cynnwys peidio â mynd allan i brynu bwyd na nwyddau eraill oni bai eich bod yn gwneud ymarfer corff, a rhaid gwneud hynny o bellter diogel rhag eraill,” meddai Boris Johnson.

Mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghaerdydd, dywedodd Julie James fod ganddi “bob hyder” yng ngallu’r Prif Weinidog i ddelio â’r argyfwng.