Pontio
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi heddiw fod y cam cyntaf o adeiladu canolfan celfyddydol newydd Pontio wedi ei gwblhau.

Mae’r safle rhwng Prif Adeilad y Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor a Ffordd Deiniol wedi ei glirio a’i baratoi ar gyfer y gwaith adeiladu, medden nhw.

Daw’r cyhoeddiad ynglŷn â dyfodol y ganolfan, sydd yn anelu at agor yn 2013, yn dilyn ymadawiad y Prif Weithredwr Robert O’Dowd ym mis Awst.

Cyhoeddodd Prifysgol Bangor fis diwethaf nad oedd unrhyw gynlluniau i ail-benodi Prif Weithredwr i gynllun Pontio yn y dyfodol agos.

Dywedodd y Brifysgol eu bod nhw wedi sefydlu Uwch Dîm Rheoli i arwain y fenter dan gadeiryddiaeth yr Is-Ganghellor.

Cafodd Robert O’Dowd, sy’n ddi-Gymraeg, ei benodi fel Prif Weithredwr llynedd. Fe adawodd ei swydd gan ddweud ei fod yn awyddus i barhau ei sgiliau entrepreneuraidd a busnes mewn meysydd eraill.

Mae’r ganolfan wed derbyn £27.5m gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop. Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Medi 2010 a Jennings, cwmni o Fae Colwyn, fu’n gwneud y gwaith galluogi.

Dywedodd Prifysgol Bangor fod y gwaith o werthuso tendrau ar gyfer y prif gontract adeiladu wedi dechrau erbyn hyn a chaiff y contractwr ei benodi o fewn y misoedd nesaf.

Wedi hynny, cynhelir digwyddiadau “cyfarfod y contractwr” er mwyn tynnu sylw at y cyfleodd fydd ar gael i gwmnïau lleol weithio ar y project a bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ar y safle ar ddechrau 2012, medden nhw.

“Rydym wedi clirio safle Pontio a’i baratoi at y cam nesaf, pan fydd y gwaith adeiladu mwy amlwg yn dechrau,” meddai Dywedodd Dylan Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Ystadau Prifysgol Bangor.

“Fel rhan o’r broses o werthuso tendrau, rydym yn chwilio am y cynnig sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian. Rydym wrthi’n gwneud asesiad manwl o’r tendrau er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cael y gwerth gorau.

“Bydd y contract yn cynnwys ‘siarter cyflogaeth adeiladu’ i hybu cyfleoedd am hyfforddiant galwedigaethol yn ystod y cyfnod adeiladu ac i helpu i greu cyfleoedd i weithwyr lleol.

“Bydd digwyddiadau recriwtio a digwyddiadau i gyflenwyr yn cael eu trefnu gyda Chyngor Gwynedd a’r contractwr llwyddiannus er mwyn i fusnesau lleol gael gwybod sut gallant fod yn rhan o’r project.”