Mae Adam Price yn dweud ei fod e’n ynysu ei hun yn sgil y coronafeirws.

Dywed arweinydd Plaid Cymru ar ei dudalen Twitter fod gan ei fab symptomau’r feirws.

“Byddaf yn parhau i weithio o adref ac annog pawb i ddilyn canllawiau ymbellháu cymdeithasol newydd i amddiffyn ein hunain a’n hanwyliaid,” meddai.

“Misoedd anodd o’n blaenau ond fe ddown ni drwyddyn nhw drwy gefnogi ein gilydd.”

Ymbellháu cymdeithasol

Daw cyhoeddiad Adam Price oriau’n unig ar ôl iddo ddatgan ei gefnogaeth i fesurau Llywodraeth Prydain i annog pobol i beidio â chymdeithasu oherwydd y feirws.

Mae’r camau’n cynnwys peidio â mynd i dafarndai, clybiau, sinemâu neu unrhyw le y gall pobol gael eu heintio drwy gymdeithasu.

“Cefnogol o fesurau priodol newydd i daclo ac oedi ymlediad Covid-19 trwy ymbellháu cymdeithasol,” meddai.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cefnogi’n gilydd yn ystod y cyfnod anodd iawn yma.”