Bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £200m heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 17) i helpu busnesau bach sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws.

Fe fydd siopau a busnesau hamdden a lletygarwch sydd â gwerth trethiannol o £51,000 neu lai yn derbyn cymorth cyfraddau busnes llawn, a bydd busnesau â gwerth trethiannol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 oddi ar eu cyfraddau busnes.

Bydd £100m ar gael fel rhan o gynllun grant newydd i fusnesau bach nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cymorth cyfraddau busnes, a bydd manylion y grant yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

‘Neilltuo pob ceiniog’

“Rydw i’n falch ein bod ni’n gallu cynnig y pecyn hwn o gefnogaeth i fusnesau fel rhan o’n hymateb i achosion o goronafeirws,” meddai’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans.

“Rydym yn neilltuo pob ceiniog o’r cyllid y byddwn yn ei dderbyn o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth y DU sydd wedi’u cyhoeddi yn Lloegr yr wythnos ddiwethaf i gefnogi busnesau yng Nghymru.

“Ond rwyf yn gwybod na fydd helpu busnesau gyda’u biliau ardrethi’n ddigon i’w gwarchod rhag y gostyngiad difrifol mewn cwsmeriaeth mae llawer yn ei brofi wrth i’r achosion o goronafeirws gynyddu.

“Byddwn yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu’n gyflym ac yn bendant er mwyn darparu cefnogaeth sylweddol iawn i fusnesau bregus a’u cyflogeion.”