Mae bathdy yn ne Cymru wedi dechrau ar y gwaith o greu’r medalau a fydd yn cael eu cyflwyno i enillwyr y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.

Bydd y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, yn cynhyrchu 4,700 o fedalau aur, arian ac efydd ar gyfer 805 o seremoniau yn ystod y gemau Olympaidd a’r gemau Paralympaidd y flwyddyn nesaf.

“Mae’n braf gweld busnesau ar draws y Deyrnas Unedig yn manteisio o’r Gemau, a dw i wrth fy modd bod y medalau ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn cael eu creu yn Ne Cymru,” meddai Paul Deighton, Prif Weithredwr cwmni LOCOG sy’n trefnu’r gemau.

Yr artist Prydeinig David Watkins sydd wedi dylunio’r medalau ar gyfer y Gemau Olympaidd, sy’n darlunio’r dduwies buddugoliaeth Groegaidd, Nike, tra bod medalau’r Gemau Paralympaidd wedi eu creu gan yr artist Lin Cheung.

‘Darn o hanes Olympaidd’

Mae Prif Weithredwr y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant yn credu y bydd y gweithwyr yn trysori’r profiad o greu’r medalau Olympaidd.

“Mae mwy na 800 o bobol lleol yn cael eu cyfogi gan y Bathdy Brenhinol,” meddai Adam Lawrence, Prif Weithredwr y cwmni, “a nawr bydd pob un yn gallu dweud wrth eu plant a’u hwyron eu bod nhw – a De Cymru – wedi cyfrannu tuag at greu darn o hanes Olympaidd.

“Rydyn ni’n hynod o falch i gael y fraint o greu’r medalau Olympaidd,” meddai.