Mae Prifysgol Bangor a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi gorau i gynnal darlithoedd a seminarau wyneb yn wyneb o ddydd Llun, Mawrth 23 ymlaen.

Mae’n dilyn cyhoeddiad Prifysgol Abertawe eu bod nhw’n atal yr holl addysgu wyneb yn wyneb o Fawrth 23.

Mae’r mesurau wedi’u cyhoeddi yn sgil ymlediad coronafeirws, a byddan nhw mewn grym tan Fai 1.

Bydd deunyddiau dysgu ar gael ar-lein yn y cyfamser, er mwyn galluogi myfyrwyr i barhau â’u hastudiaethau.

Mewn datganiad, dywedodd Prifysgol Bangor: “Mae’r Brifysgol yn parhau ar agor fel arfer, gan gynnwys Neuaddau a Llyfrgelloedd, a bydd staff ar gael i ddarparu cyngor a gofal bugeiliol i fyfyrwyr.

“Mae’r Brifysgol yn cymryd y camau hyn ar gyfer iechyd, diogelwch a lles staff, myfyrwyr a’r gymuned ehangach. Er nad oes disgwyl i fyfyrwyr adael y brifysgol, mae’r wythnos bontio hon o addysgu wyneb yn wyneb i addysgu ar-lein yn rhoi cyfle ichi ddychwelyd adref os dymunwch, yn enwedig oherwydd y sefyllfa deithio sy’n newid yn barhaus. Ni fydd myfyrwyr sy’n dychwelyd adref dan anfantais. Mae’r wythnos bontio hon hefyd yn caniatáu i staff baratoi ymhellach ar gyfer addysgu ar-lein.”

Arholiadau’r haf

Mae cyfnod arholiadau’r haf yn debygol o gael ei effeithio, meddai’r brifysgol.

Mae Prifysgol y Drindod Dewi Sant hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n gohirio dysgu yn y dosbarth am y tro ac mae disgwyl i Brifysgol Caerdydd wneud cyhoeddiad prynhawn ma (Dydd Llun, Mawrth 16).

Yn y cyfamser mae Plaid Cymru wedi galw am “eglurder” i fyfyrwyr a’r sector addysg uwch.

Dywedodd llefarydd addysg uwch y blaid Helen Mary Jones AC ei bod yn ysgrifennu at y Gweinidog Addysg Kirsty Williams i ofyn i Lywodraeth Cymru ateb tri chwestiwn brys.

“Sut fydd myfyrwyr yn cael parhau gyda’u hastudiaethau? Beth yw’r sefyllfa o ran ffioedd os yw myfyrwyr yn gorfod gohirio eu hastudiaethau? A beth fydd yr effaith ar amserlenni arholiadau? Mae’n gyfnod o ansicrwydd mawr,” meddai.