Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i egluro a fyddan nhw’n cynyddu nifer y profion am y Coronafeirws er mwyn cael darlun llawn o faint yr argyfwng.

Dywedodd arweinydd y blaid Adam Price a llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AC bod angen cynnal rhagor o brofion ar hap.

“Mae canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd yn glir – fedrwch chi ddim brwydro firws os nad ydych chi’n gwybod le mae e. Mae angen darganfod, ynysu, profi a thrin pob achos er mwyn torri’r gadwyn. Mae pob achos ry’ch chi’n darganfod yn cyfyngu’r firws rhag lledu,” meddai Adam Price.

“Mae hyn yn gyfnod pryderus iawn  i bawb. Mae pobl ar draws Cymru yn cymryd camau synhwyrol i ynysu eu hunain os ydyn nhw’n dangos symptomau fel peswch a thwymyn.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n hybu hyder y cyhoedd drwy ddarparu cymaint o eglurder ag sy’n bosib ynglŷn â’r firws. Dyna pam ry’n ni’n gofyn i Lywodraeth Lafur Cymru i egluro’r sefyllfa ynglŷn â phrofion ar hap – mae’n fodd i gael darlun mwy llawn o faint y broblem.”

 

Llinell gymorth i fusnesau

Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth bod tair canolfan yng ngogledd Cymru sy’n cynnal profion Covid-19 yn cau “a dw i’n bryder na fydd gan bobl fynediad at brofion prydlon fel sydd wedi bod.

“Os ydyn ni’n torri nôl ar y profion yma fe fydd yn anoddach i gael darlun o sut mae’r firws yn lledu.”

Roedd hefyd yn dweud bod angen i Gymru sefydlu llinell gymorth Covid-19 i fusnesau, fel sydd yn yr Alban, wrth iddyn nhw wynebu ansicrwydd yn yr wythnosau nesaf am effaith y coronafeirws ar yr economi.

“Mae’n hanfodol ein bod i gyd yn gweithio’n gyda’n gilydd… ond ar hyn o bryd mae nifer o fylchau mae angen eu llenwi ac mae hynny’n achos pryder,” meddai.