Llio Heledd Owen gipiodd y Gadair yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Aberystwyth eleni.

Un o Abertawe yw Heledd, myfyrwraig blwyddyn gyntaf sy’n astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Testun y gystadleuaeth eleni oedd ‘Agor’, a “chodi muriau a ffiniau” oedd wedi eu sbarduno, yn ôl yr enillydd, oedd wedi cystadlu gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Difyrrwch’.

“O ran ysbrydoliaeth, cyfres o englynion ydyn nhw yn sôn am gymdeithas gyfoes sy’n rhy barod i godi muriau a ffiniau,” meddai wrth golwg360.

“Ond eto, daw i ddiwedd â gweledigaeth fwy gobeithiol ‘bod gwayw bywyd gaeaf yn hir / ond gwn y daw haf’, sef y gwpled olaf.

“Roedd ennill yn brofiad annisgwyl tu hwnt – teimlad o falchder bod y ddwy brif wobr wedi dod i Aberystwyth.”

Roedd dathliad dwbwl i’r brifysgol ger y lli, wrth i Twm Ebbsworth, myfyriwr drama, gipio’r goron.

Coronavirus

Mae golwg360 yn deall nad oedd y trefniadau arbennig yn eu lle yn sgil coronavirus.

Teithiodd myfyrwyr o Brifysgol Bangor fel unigolion yn hytrach na theithio ar fws.

Ond does dim lle i gredu bod yr Eisteddfod yn wahanol iawn i’r arfer, er bod y niferoedd ychydig yn is na’r arfer.