Mae Adam Price wedi anfon llythyr at y prif weinidog Mark Drakeford yn gofyn a yw’n cefnogi’r cynllun ymbellháu cymdeithasol a allai gael ei gyflwyno gan Lywodraeth Prydain yn sgil Coronafeirws.

Mae lle i gredu y gallai Llywodraeth Prydain wahardd cynulliadau mawr o bobol yr wythnos nesaf wrth geisio mynd i’r afael â’r firws sy’n ymledu ar draws y byd.

Ond fe ddaw’r adroddiadau hynny ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, ddweud nad oedd yn credu bod angen cymryd y fath gam.

Ac ar ddydd Gwener (Mawrth 13), meddai, roedd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething wedi gorchymyn y gwasanaethau brys i beidio â staffio na chynllunio ar gyfer digwyddiadau mawr, fel sydd eisoes ar waith yn yr Alban.

Yn yr Alban, mae cynulliadau o 500 o bobol neu fwy eisoes wedi cael eu gwahardd.

Apêl

“Er mwyn sicrhau ymddiriedaeth y cyhoedd ac fel cam pellach yn erbyn ymledu Covid-19, gofynnaf i chi ystyried gweithredu ar bwerau sydd ar gael i chi yn unol ag Adran 45 Deddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Afiechyd) 1984,” meddai Adam Price yn y llythyr.

“Mae Adran 45C(3) y Ddeddf yn caniatáu’r rheoliadau ar gyfer ystod o ddarpariaethau, gan gynnwys: “(c) gorfodi neu alluogi gorfodi cyfyngiadau neu ofynion ar bobol, pethau neu fangre, neu mewn perthynas â nhw, pe bai bygythiad i iechyd y cyhoedd neu wrth ymateb iddo.”

Mae’r rhain, meddai, yn cynnwys cadw plant draw o’r ysgol, cyfyngiadau ar gynnal digwyddiadau torfol, a chyfyngiadau ar drin, cludo, claddu neu amlosgi pobol neu weddillion dynol.

“Mae’n hanfodol fod Cymru’n defnyddio’r holl bwerau sydd ganddi eisoes er mwyn oedi ymlediad Covid-19 ac fe fyddwn ni oll yn eich cefnogi chi yn yr ymdrechion hynny.

“O ganlyniad i ddiddordeb dealladwy’r cyhoedd yn y mater hwn, byddaf yn rhyddhau copi o’m llythyr i’r wasg.”