Mae adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi yn dilyn marwolaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala mewn damwain awyr fis Ionawr y llynedd wedi dod i sawl casgliad.

Mae lle i gredu bod y peilot David Ibbotson wedi colli rheolaeth ar yr awyren wrth groesi’r Sianel tra’n cludo’r Llydawr o Gaerdydd i Nantes, a bod carbon monocsid yn gollwng a thywydd garw wedi cyfrannu at y ddamwain.

Roedd yr Archentwr wedi ymuno â’r Adar Gleision ddyddiau’n unig cyn y ddamwain, ac roedd e’n dychwelyd i Lydaw i ffarwelio â’i gyd-chwaraewyr ar ôl cwblhau’r trosglwyddiad.

Dydy corff y peilot 59 oed ddim wedi cael ei ddarganfod hyd heddiw, ac fe ddaeth ymchwilwyr i’r casgliad ei fod e’n gyrru’r awyren yn rhy gyflym a bod yr awyren wedi torri i fyny.

Fe ddaeth i’r amlwg hefyd nad oedd y peilot wedi cael ei hyfforddi i lywio’r awyren fin nos ac nad oedd e wedi ymarfer llywio’r awyren drwy ddefnyddio cyfarpar yn y caban.

Roedd y peilot wedi rhybuddio am nifer o drafferthion yn ystod y daith.

Argymhellion

Mae ymchwilwyr wedi gwneud cyfres o argymhellion yn dilyn y ddamwain.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gwella cofnodion trwyddedau criw hedfan yn unol â gofynion yr Undeb Ewropeaidd
  • Gorfodi awyrennau bychain i gludo synhwyrydd carbon monocsid sy’n rhybuddio’r peilot am ddiffygion
  • Gwella effeithlonrwydd archwiliadau systemau’r bibell fwg

Ymateb a chyhuddiadau posib

Yn ôl cyfreithiwr teulu Emiliano Sala, mae’r adroddiad yn cynnwys cryn dipyn o wybodaeth dechnegol, ond yn “gadael nifer o gwestiynau i’r cwest fynd i’r afael â nhw”.

Cafodd gwrandawiad cychwynnol y cwest ei gynnal fis Tachwedd y llynedd.

Mae’r awdurdodau hedfan yn cynnal ymchwiliad i benderfynu a gafodd unrhyw droseddau eu cyflawni.

Cyhoeddodd Heddlu Dorset yr wythnos hon na fydd unrhyw gyhuddiadau yn erbyn dyn 64 oed o Ogledd Swydd Efrog oedd wedi’i amau o ddynladdiad.