Mae rhagor o wybodaeth wedi dod i’r fei ynghylch marwolaeth y pêl-droediwr o’r Ariannin, Emiliano Sala.

Roedd y chwaraewr 28 oed wedi treulio cyfnod â thîm Ffrengig Nantes, a chyn ei farwolaeth roedd wedi ennill cytundeb £15m â chlwb pêl-droed Caerdydd.

Cafodd ei gludo gan y peilot David Ibbotson, 59, o Gymru i Ffrainc er mwyn ffarwelio ei gyd-chwaraewyr, a bu farw deuddydd wedi hynny wrth ddychwelyd.

Plymiodd yr awyren o’r awyr yn y Sianel, a bellach mae ymchwilwyr wedi datgelu ffaeleddau’r peilot.

Mae adroddiad y Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyren (AAIB) yn dangos bod David Ibbotson wedi colli rheolaeth wrth geisio osgoi tywydd gwael.

Roedd yr awyren yn teithio’n rhy gyflym pan aeth i drybini, medda’r ymchwilwyr, a doedd gan y peilot ddim profiad o hedfan yn y nos.

Doedd ganddo ddim trwydded i gael ei dalu i hedfan awyren, ond mae tystiolaeth yn dangos y bu iddo dderbyn ffi.