Wrth i’r coronafeirws ledaenu ymhellach, mae cyfres o eisteddfodau cylch yr Urdd wedi cael eu canslo yn ne orllewin Cymru.

Hyd yma mae tri achos o’r haint wedi eu cofnodi yn Sir Gaerfyrddin, ac mae dau achos wedi’u cadarnhau yn Sir Benfro.

Ac yn sgil hyn oll mae golwg360  yn deall bod dwy eisteddfod cylch wedi’u gohirio yn ardal Myrddin  (Sir Gaerfyrddin), ac un eisteddfod cylch wedi’i gohirio yng Ngheredigion.

Roedd disgwyl i eisteddfodau cylch Mynydd Mawr a Chwm Taf gael eu cynnal heddiw, ond mae’n debyg bod ysgolion wedi penderfynu peidio cymryd rhan.

Mae’n debyg bod Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi cynghori ysgolion i ailystyried digwyddiadau torfol.

Mae eisteddfod cylch Llandysul yng Ngheredigion hefyd wedi ei gohirio, a hynny am fod tair ysgol wedi methu â chymryd rhan.

Mae’r tair ysgol – Ysgolion Cae’r Felin, Brynsaron ac Ysgol y Dwylan – naill ai yn Sir Gaerfyrddin neu’n agos at y sir honno.

“Urdd yn siomedig”

“Oherwydd argaeledd ysgolion a lleoliadau mae rhai eisteddfodau cylch wedi eu gohirio,” meddai llefarydd yr Urdd.

“Mae’r Urdd yn siomedig wrth gwrs ar ran yr holl gystadleuwyr oedd fod i gystadlu ac fe fyddwn yn edrych ar ddyddiadau eraill posib i aildrefnu’r Eisteddfodau.

“Mae’r Urdd yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ac yn parhau i fonitro’r sefyllfa. Byddwn yn gwneud cyhoeddiad os oes unrhyw newid pellach. “