Mae Llywodraeth Cymru wedi herio dyfarniad Comisiynydd y Gymraeg eu bod wedi methu darparu gwasanaethau yn Gymraeg ar drenau.

Bu aelodau’r cyhoedd yn cwyno am docynnau trên, e-byst a gwefannau yn uniaith Saesneg.

Fis diwethaf, dyfarnodd Aled Roberts bod gweinidogion y Llywodraeth wedi torri chwe safon iaith trwy fethu a sicrhau darpariaeth Cymraeg digonol i deithwyr trenau.

Daw’r dyfarniad mewn adroddiad a ddaeth i law golwg360 ac sydd heb weld golau dydd hyd yma – nid yw’r fersiwn swyddogol derfynol wedi ei chyhoeddi.

Bellach mae golwg360 yn gallu datgelu bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno apêl yn erbyn y dyfarniad y Comisiynydd Iaith i Dribiwnlys y Gymraeg.

Mae hynny’n golygu na fydd camau gorfodi’r Comisiynydd yn dod i rym, am y tro, ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw’r sefyllfa’n “sgandal”.

Cefndir

Bu Aled Roberts y Comisiynydd Iaith yn ymchwilio i gyfres o gwynion yn erbyn darpariaeth Gymraeg Trafnidiaeth Cymru – cwynion a oedd yn ymwneud â methiant i gydymffurfio â gwahanol safonau iaith.

Trafnidiaeth Cymru yw is-gwmni Llywodraeth Cymru ac mae yn gyfrifol am y gwasanaeth trenau.

Bu’r Comisiynydd yn ymchwilio i gwynion penodol gan aelodau o’r cyhoedd yn ogystal â phryderon eraill a gafwyd eu codi gan straeon y “wasg a gwaith gwirio swyddogion”.

Y cwynion

Ymhlith y cwynion roedd:

  • Ap Trafnidiaeth Cymru ddim ar gael yn Gymraeg
  • Gwe-dudalen ddim yn adnabod enwau Cymraeg gorsafoedd
  • Ticedi trên yn uniaith Saesneg
  • Dewisiadau Saesneg ar beiriant hunanwasanaeth Gorsaf Caerdydd Canolog – er bod yr achwynwr wedi dewis yr opsiwn Cymraeg
  • Gwerthwr wrth y cownter prynu ticedi ddim yn gallu siarad Cymraeg (yn yr un orsaf)
  • Dwy gŵyn am e-byst uniaith Saesneg gan y cwmni

Mewn fersiwn blaenorol o’r adroddiad – fersiwn drafft o fis Ionawr – dyfarnodd Comisiynydd y Gymraeg bod gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi torri naw safon iaith.

“Sgandal”

“Mae hyn yn sgandal,” meddai David Williams o Gymdeithas yr Iaith.

“Yn lle defnyddio eu hadnoddau i gryfhau’r iaith, mae’n Llywodraeth ni’n treulio’i hamser ac yn gwario ein harian ar danseilio hawliau pobl i’r Gymraeg.

“Mae’r Llywodraeth wedi bod yn oedi rhag ymestyn Safonau’r Gymraeg i’r maes trafnidiaeth ers blynyddoedd, gan ddweud nad oes digon o gyfreithwyr i wneud y gwaith.

“Fodd bynnag, pan ddaw hi at ffeindio cyfreithwyr i danseilio ein hawliau iaith, ymddengys bod hen ddigon ohonyn nhw.”

Trafnidiaeth Cymru?

Cafodd Trafnidiaeth Cymru ei sefydlu yn 2016 fel is-gwmni o dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru.

Mae Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru yn cael eu rheoli gan Keolis Amey, sy’n gweithredu Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau.

Maen nhw wedi bod yn gyfrifol am y gwasanaeth trenau yng Nghymru ers mis Hydref 2018.

Yng ngeiriau’r adroddiad “mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni cyfyngedig dan warant, a’r unig warantwr yw Llywodraeth Cymru.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er ein bod ni’n anghytuno gyda’r Comisiynydd ar y mater penodol hwn, rydyn ni’n gefnogol ac yn annog ymdrechion i wneud ein gwasanaethau trafnidiaeth yn fwy fwy dwyieithog.

“Nid yw Safonau’r Gymraeg sydd yn gymwys i Weinidogion Cymru yn berthnasol i wasanaethau sy’n cael eu darparu gan Keolis Amey, sydd yn dal y rhyddfraint rheilffyrdd ar gyfer Cymru a’r Gororau.  Dyna pam rydyn ni’n cyfeirio’r mater at Dribiwnlys y Gymraeg.

“Mae Keolis Amey yn darparu gwasanaethau dwyieithog, ac rydyn ni – gyda’n his-gwmni Trafnidiaeth Cymru – wedi ymrwymo i wella a chynyddu’r gwasanaethau yma sydd ar gael i deithwyr trenau.

“Rydyn ni hefyd wedi dechrau paratoi set benodol o reoliadau, sy’n gosod allan Safonau’r Gymraeg ar gyfer y sector rheilffyrdd.  Bydd y rheoliadau newydd yma yn cael eu gosod yn ystod tymor y Senedd nesaf, a byddant yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob darparwr gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.”