Mae penaethiaid Undeb Rygbi Cymru yn mynnu eu bod nhw yn dilyn cyngor y Llywodraeth ac arbenigwyr meddygol ynghylch coronafeirws, wrth benderfynu parhau gyda’r ornest yn erbyn yr Alban yng Nghaerdydd yfory.

Yn ôl yr undeb, mi fydden nhw wedi gohirio’r gêm tasa’r cyngor meddygol yn gofyn am hynny.

Bydd mwy o gyfleusterau golchi dwylo ar gael yn y Stadiwm Cenedlaethol yfory ac mae cynlluniau wrth gefn i ddelio ag unrhyw faterion allai godi.