Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi cyhoeddi eu bod yn canslo eu cynhadledd Wanwyn oherwydd pryderon am y firws COVID-19.

Roedd disgwyl i’r gynhadledd gael ei chynnal yn Abertawe y penwythnos nesaf.

Fe fydd y blaid bellach yn cynnal cynhadledd mwy na’r arfer yn Abertawe yn yr Hydref eleni pan fydd y coronafeirws o dan reolaeth.

Dywedodd llefarydd ar y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru nad oedd yn benderfyniad hawdd ond bod angen gweithredu’n “gyfrifol”

“Oherwydd y cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf nid oeddem yn teimlo y gallwn ni gynnal digwyddiad a allai ledaenu’r firws a rhoi iechyd ein haelodau mewn perygl.”