Mae’r NFU wedi gohirio rali amaethyddol yn Llundain oherwydd pryderon am ledaeniad coronavirus.

Roedd disgwyl i ffermwyr, arwerthwyr ac arbenigwyr ym maes lles anifeiliaid a’r amgylchedd o bob cwr o wledydd Prydain ymgynnull yn Llundain ar gyfer y rali ddiwedd y mis.

Roedd y rali yn rhan o ymgyrch NFU i sicrhau na fyddai unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol yn tanseilio safonau cynhyrchu bwyd Prydeinig.

Ond yn ôl John Davies, llywydd NFU Cymru, “ansicrwydd parhaus ynghylch lledaeniad y clefyd a maint a natur y digwyddiad hwn yw’r rheswm dros ohirio”.

“Er ei fod yn siomedig iawn, mae’n rhaid i ni fod yn gall a rhoi lles pawb wrth galon unrhyw benderfyniad,” meddai.