Mae economegydd o Abertawe’n dweud bod y diffyg sylw i Gymru yng Nghyllideb y Canghellor Rishi Sunak yn destun “siom”.

Yn ôl Dr John Ball, cyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, mae’r addewid o £360m i Lywodraeth Cymru’n “bitw iawn”, gan feirniadu diffyg amserlen ar gyfer derbyn yr arian hwn.

“A bod yn onest, pan dw i’n edrych ar y Gyllideb eleni o safbwynt Cymru, ychydig iawn sydd i’w ddweud amdani fel economegydd,” meddai wrth golwg360.

“Y sylw amlwg i’w wneud yw mai cyllideb y Deyrnas Unedig yw hon ac felly, dylai bod iddi “uchelgeisiau cenedlaethol” fel y dywedodd y Canghellor.

“Ond mae’n destun siom mai prin iawn yw’r cyfeiriadau at Gymru o gwbl.”

‘Pitw’

 Mae Dr John Ball yn croesawu’r buddsoddi yn ffordd osgoi Pant Llanymynech a dyblu’r arian sydd ar gael ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd i £5.2m

Ond mae ganddo fe bryderon am y ddau ymrwymiad, meddai.

“Dylid croesawu unrhyw welliannau ffyrdd fel ffordd osgoi Pant Llanymynech ond gyda chyllideb o biliynau, mae’r £360m o arian ychwanegol sydd wedi’i addo i Lywodraeth Cymru’n bitw iawn.

“Mae hefyd yn destun pryder nad oes amserlen glir ar gyfer yr arian hwn.

“Dw i’n croesawu’r gyllideb ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd sydd am ddyblu i £5.2m, ond mae’n aneglur faint o’r arian hwn fydd yn dod i Gymru, un o’r llefydd a gafodd ei tharo waethaf yn y llifogydd yn ddiweddar.”

Ar raddfa Brydeinig

Ar y cyfan, mae’n dweud bod y Gyllideb gyfan “yn eithaf siomedig”.

“O gymharu â phobol yn y Deyrnas Unedig, mae Cymru’n talu llai o dreth incwm a mwy o Yswiriant Gwladol, sy’n swnio’n wrth-gynhyrchiol efallai, ond mae’n adlewyrchiad o’r tâl isel yng Nghymru.

“Felly mae’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol i’w groesawu.

“Ond mae gan y Deyrnas Unedig gyfan broblemau difrifol o ran iechyd ac isadeiledd, ac mae’r Gyllideb hon yn eithaf siomedig.”